lunes, 3 de septiembre de 2007

Ymdrech: 0/10!

Dwi heb flogio ers bron i fis!!! Wedi bod yn brysur iawn, onest...Ond wedi gwneud addewid i wneud fwy o ymdrech, yn arbennig ers i fi ddarllen yn y Guardian dydd Sadwrn am flog y ddynes 95 oed o Muxía (Gorllewin Galicia) - http://amis95.blogspot.com Dwi'm yn cofio faint o 'hits' ma'r blog yn ei gael bob dydd, ond rhyw rif anhygoel! Yn sydyn reit, ro' ni'n teimlo ychydig yn ddwl am fod yn ecseited pan ges i sylwad wrth un person diwithr ryw ychydig wythnosau nôl (diolch Ceri!!)...Mwy i ddilyn!!!

2 comentarios:

Rhys Wynne dijo...

Ydi'r hen ddynes yn blogio mewn Galisieg neu Sbaeneg?

Mae gan y Galisieg tipyn o bresenoldeb ar y we o be dwi'n ddallt

http://nireblog.com/gl (nifer o flogiau'n defnyddio'r ustem flogio Nireblog - sydd hefydd ar gael yn Gymraeg

http://blogaliza.org/ (Blogiadur Galisiesg)

Annie dijo...

Ma' hi'n sgwennu yn Sbaeneg fwyaf, ond gyda ambell beth mewn Galisieg. Yn sicr, yn dod o Muxía, Galisieg fydde hi'n siarad bob dydd - pentref pysgota bach ar y Costa da Morte (arfordir marwolaeth!!) sydd yn dal yn draddodiadol iawn.

Diolch am y cyfeiriadau ar gyfer stwff Galisieg ar y we - fe wnai gael golwg arnyn nhw!