martes, 4 de septiembre de 2007

Nôl mewn hanes am ddiwrnod

Dydd Sadwrn olaf mis Awst, mi ddaeth hanes yn fyw am benwythnos yn Ribadavia, yn ne Galicia. Roedd hi'n amser y Festa da Istoria - y Ffair Hanes! Mi 'odd Ribadavia wedi ei drawsnewid: baneri yn hedfan o ffenestri a simneau, dawnsio traddodiadol yn y strydoedd a stondinau'n gwerthu nwyddau traddodiadol. Dim dathliad o unrhyw gyfnod penodol mewn hanes mo hwn. O fewn hanner awr o gyrraedd y pentre, mi o' ni eisioes wedi dod ar draws Rhufeinwyr, Celtiaid tlawd, Llychlynwyr o'dd yn 'dab hand' ar chwarae'r gaita (y bagpipes Galisieg), derwyddon a hyd yn oed ambell un truenus yr olwg a o'dd edrych fel pe tai nhw'n dioddef o'r wahanglwyf! Mi 'odd hyd yn oed banc lle y gellir newid yr Euros am Miravedís – arian arbennig ar gyfer yr achlysur (er fod y gyfradd newid ychydig yn amheus...). Ond gyda’r Miravedís yn fy mhoced, a cwpan yn hongian ar gorden am fy ngwddf (ar gyfer y gwin wrthgwrs), dyma fentro mewn i ganol y dorf.



Ac er mai ganol dydd odd hi, roedd y dathliadau eisioes mewn ‘full swing’. Doedd dim llawer yn addysgiadol am y dathliad yma – nid cyfle i ddysgu am hanes Ribadavia na Galisia oedd y diwrnod hwn. Ond does dim dowt fod y bobl a fuodd yn Ribadavia y dydd Sadwrn hwnnw wedi gwneud job dda iawn o ail-greu’r atmosffer gwyllt, reckless hynny sy’n dod i fy meddwl pan dwi’n meddwl am ddathliadau cyhoeddus yn canol oesoedd. Digon o win a canu, ond hefyd arddangosfa adar ysglyfaethus, parch chwarae thematig i’r plantos bach a lot lot o bethe arall.


Yr unig drueni? Fy mod i heb wisgo lan. Flwyddyn nesaf, mi fydd na Geltais arall ‘authentig’ yn cynnig llwnc destun i hanes yn strydoedd Ribadavia.


1 comentario:

Cer i Grafu dijo...

Wi'n credu taw'r diwylliant yw'r yfed gwin a joio fel mae'r Celtiaid erioed wedi ei wneud, Annie.

Dyna fu ein hanes ni erioed, joio pan fo Rhufain yn llosgi ond y joio sy'n ein gwneud ni'n bobl arbennig. Mae ond isie edrych ar wyneb y Saeson a'r Iberiaid eraill, smo nhw'n joio'r un fath a ni!!

Muitos beixos

cerixxxx