jueves, 13 de septiembre de 2007

Tapas gorau Lugo?

Ma' tapas yn ran anatod o ddiwylliant Sbaen. Dyw Lugo ddim yn eithriad i'r rheol yma. Peth naturiol, felly, yw cael cystadleuaeth i ddarganfod pwy sy'n gwneud y tapas gorau. Wythnos ddiwethaf, fe lawnsiwyd y Gystadleuaeth Tapas i wneud jyst hynny. 35 o fariau a bwytai yn brwydro am yr anhrydedd o gael eu gwobrwyo fel penigampwyr tapas y dref. Am y bythefnos nesaf, bydd pob un o'r cystadleuwyr yn cynnig un tapa arbennig i'r cyhoedd. Bydd cyfle i bawb roi marc i'r tapa, ac ar ddiwedd y bythefnos, bydd gwobrwyon i'r tapa mwyaf poblogaidd. Fe gynnigir tapas mewn dau gategori gwahanol: Tapas traddodiadol, a tapas creadigol.

Neithiwr, felly, a dim bwyd o gwbwl yn y ty, dyma benderfynu mynd i brofi ychydig o'r tapas.

Y lle cyntaf ar ein rhestr ni: Y Sucursal, fy hoff bar gwin yn Lugo. Ma'r bwyd a'r gwin yn arbennig, felly mi roedd fy nghobeithion yn uchel am dapa safonol.

Y cynnig yn y Sucursal oedd Minitostas de uña de porco con redución de Pedro Ximenez ('trotter' mochyn ar dost gyda saws o win Pedro Ximenez). Ma' rhaid i fi gyfadded, o ni heb drio trotter o'r blaen. Dwi eriod wedi bod yn un am fwyta pethe fel clustau, traed na cwt unrhyw anifael...na unrhyw organ chwaith! Ond wedi gofyn am y tapa, rhaid oedd ei drio. Roedd y cyflwyniad yn glasurol iawn. Yn anffodus, roedd texture y cig yn fy atgoffa o orfod bwyta spam yn yr ysgol - dim atgof pleserus. Roedd y saws yn felys hyfryd, ond dim yn ddigon i fynd a blas y trotter o'ngeg i. Marc: 5/7 (am y cyflwyniad a'r ymdrech, er ddim cweit at fy nant i).

Nesaf: Taverna Daniel, un o fariau mwyaf traddodiadol Lugo a ennillodd wobr yn y gydtadleuaeth llynedd.

Y tapa i'w drio oedd Bacalau con puré dúas cores (cod gyda puré dau-liw). Mi ddaeth y tapa mewn gwydr hanner peint, gyda haen o dato pwtsh, saws tomato, ychydig o'r pysgodyn ar y top a olive ddu i gwpla'r cyflwyniad. Cyfuniad itha rhyfedd, a oedd yn edrych mwy fel pwdin na tapas. Cyfeiriadau'r gweinydd oedd "llwy reit i'r gwaelod, a wedyn cymryd ychydig o bob haen er mwyn cael cyfuniad o'r tri blas". Yn anffodus, doedd ddim lot o flas i unrhyw un o'r cynhwysion, efallai achos fod y cyfan yn oer. Hanner ffordd trwy'r tapa mi o' ni yn teimlo'n hollol llawn! Nid llond ceg bach i lonyddu'r stumog tan amser swper oedd hwn! Marc: 4/7

Doedd dim dau heb dri, ac felly dyma fynd i'r Vinoteca Casa da Auga am y tapa olaf: Crocante de pastel de cabracho con froitos de mar (Cragen crunchy gyda mousse o fwyd mor). Roedd y gragen yn fwy o cone allan o ryw fath o fisged a oedd, fel yr addewyd, yn crunchy iawn. Roedd y mousse yn hyfryd - yn ffres, gyda blas ysgafn cranc a mussels. Ac i orffen y cyfan, mini-kebab o domatos bach a mussels i dipio yn y mousse. Creadigol iawn! Trueni eu bod nhw wedi mynnu rhoi ychydig o salad gwyrdd ar ochr y plat. Ma' gas gen i 'side-salad' o'r fath, hoff addurn gormod o westai Prydeinig (hyd yn oed rhai Indiaidd!) nad sydd a'r dychymyg i drefnu bwyd a'r blat mewn unrhyw ffordd arall. Ond serch hyn, ymdrech dda iawn. Marc: 6/7.

Dechrau da i fy nghystadleuaeth tapas i! Gyda 32 tapas arall i'w blasu, fydd ddim angen i fi gwcan swper am sbel...

2 comentarios:

Linda dijo...

Diddorol iawn ! Dwi 'di bod yn Sbaen ddwywaith, ond erioed wedi trio tapas.
Gad i ni wybod pa un sy'n ennill...

Anónimo dijo...

Mmmm....tengo que volver ya