jueves, 13 de septiembre de 2007

Tapas gorau Lugo?

Ma' tapas yn ran anatod o ddiwylliant Sbaen. Dyw Lugo ddim yn eithriad i'r rheol yma. Peth naturiol, felly, yw cael cystadleuaeth i ddarganfod pwy sy'n gwneud y tapas gorau. Wythnos ddiwethaf, fe lawnsiwyd y Gystadleuaeth Tapas i wneud jyst hynny. 35 o fariau a bwytai yn brwydro am yr anhrydedd o gael eu gwobrwyo fel penigampwyr tapas y dref. Am y bythefnos nesaf, bydd pob un o'r cystadleuwyr yn cynnig un tapa arbennig i'r cyhoedd. Bydd cyfle i bawb roi marc i'r tapa, ac ar ddiwedd y bythefnos, bydd gwobrwyon i'r tapa mwyaf poblogaidd. Fe gynnigir tapas mewn dau gategori gwahanol: Tapas traddodiadol, a tapas creadigol.

Neithiwr, felly, a dim bwyd o gwbwl yn y ty, dyma benderfynu mynd i brofi ychydig o'r tapas.

Y lle cyntaf ar ein rhestr ni: Y Sucursal, fy hoff bar gwin yn Lugo. Ma'r bwyd a'r gwin yn arbennig, felly mi roedd fy nghobeithion yn uchel am dapa safonol.

Y cynnig yn y Sucursal oedd Minitostas de uña de porco con redución de Pedro Ximenez ('trotter' mochyn ar dost gyda saws o win Pedro Ximenez). Ma' rhaid i fi gyfadded, o ni heb drio trotter o'r blaen. Dwi eriod wedi bod yn un am fwyta pethe fel clustau, traed na cwt unrhyw anifael...na unrhyw organ chwaith! Ond wedi gofyn am y tapa, rhaid oedd ei drio. Roedd y cyflwyniad yn glasurol iawn. Yn anffodus, roedd texture y cig yn fy atgoffa o orfod bwyta spam yn yr ysgol - dim atgof pleserus. Roedd y saws yn felys hyfryd, ond dim yn ddigon i fynd a blas y trotter o'ngeg i. Marc: 5/7 (am y cyflwyniad a'r ymdrech, er ddim cweit at fy nant i).

Nesaf: Taverna Daniel, un o fariau mwyaf traddodiadol Lugo a ennillodd wobr yn y gydtadleuaeth llynedd.

Y tapa i'w drio oedd Bacalau con puré dúas cores (cod gyda puré dau-liw). Mi ddaeth y tapa mewn gwydr hanner peint, gyda haen o dato pwtsh, saws tomato, ychydig o'r pysgodyn ar y top a olive ddu i gwpla'r cyflwyniad. Cyfuniad itha rhyfedd, a oedd yn edrych mwy fel pwdin na tapas. Cyfeiriadau'r gweinydd oedd "llwy reit i'r gwaelod, a wedyn cymryd ychydig o bob haen er mwyn cael cyfuniad o'r tri blas". Yn anffodus, doedd ddim lot o flas i unrhyw un o'r cynhwysion, efallai achos fod y cyfan yn oer. Hanner ffordd trwy'r tapa mi o' ni yn teimlo'n hollol llawn! Nid llond ceg bach i lonyddu'r stumog tan amser swper oedd hwn! Marc: 4/7

Doedd dim dau heb dri, ac felly dyma fynd i'r Vinoteca Casa da Auga am y tapa olaf: Crocante de pastel de cabracho con froitos de mar (Cragen crunchy gyda mousse o fwyd mor). Roedd y gragen yn fwy o cone allan o ryw fath o fisged a oedd, fel yr addewyd, yn crunchy iawn. Roedd y mousse yn hyfryd - yn ffres, gyda blas ysgafn cranc a mussels. Ac i orffen y cyfan, mini-kebab o domatos bach a mussels i dipio yn y mousse. Creadigol iawn! Trueni eu bod nhw wedi mynnu rhoi ychydig o salad gwyrdd ar ochr y plat. Ma' gas gen i 'side-salad' o'r fath, hoff addurn gormod o westai Prydeinig (hyd yn oed rhai Indiaidd!) nad sydd a'r dychymyg i drefnu bwyd a'r blat mewn unrhyw ffordd arall. Ond serch hyn, ymdrech dda iawn. Marc: 6/7.

Dechrau da i fy nghystadleuaeth tapas i! Gyda 32 tapas arall i'w blasu, fydd ddim angen i fi gwcan swper am sbel...

martes, 4 de septiembre de 2007

Nôl mewn hanes am ddiwrnod

Dydd Sadwrn olaf mis Awst, mi ddaeth hanes yn fyw am benwythnos yn Ribadavia, yn ne Galicia. Roedd hi'n amser y Festa da Istoria - y Ffair Hanes! Mi 'odd Ribadavia wedi ei drawsnewid: baneri yn hedfan o ffenestri a simneau, dawnsio traddodiadol yn y strydoedd a stondinau'n gwerthu nwyddau traddodiadol. Dim dathliad o unrhyw gyfnod penodol mewn hanes mo hwn. O fewn hanner awr o gyrraedd y pentre, mi o' ni eisioes wedi dod ar draws Rhufeinwyr, Celtiaid tlawd, Llychlynwyr o'dd yn 'dab hand' ar chwarae'r gaita (y bagpipes Galisieg), derwyddon a hyd yn oed ambell un truenus yr olwg a o'dd edrych fel pe tai nhw'n dioddef o'r wahanglwyf! Mi 'odd hyd yn oed banc lle y gellir newid yr Euros am Miravedís – arian arbennig ar gyfer yr achlysur (er fod y gyfradd newid ychydig yn amheus...). Ond gyda’r Miravedís yn fy mhoced, a cwpan yn hongian ar gorden am fy ngwddf (ar gyfer y gwin wrthgwrs), dyma fentro mewn i ganol y dorf.



Ac er mai ganol dydd odd hi, roedd y dathliadau eisioes mewn ‘full swing’. Doedd dim llawer yn addysgiadol am y dathliad yma – nid cyfle i ddysgu am hanes Ribadavia na Galisia oedd y diwrnod hwn. Ond does dim dowt fod y bobl a fuodd yn Ribadavia y dydd Sadwrn hwnnw wedi gwneud job dda iawn o ail-greu’r atmosffer gwyllt, reckless hynny sy’n dod i fy meddwl pan dwi’n meddwl am ddathliadau cyhoeddus yn canol oesoedd. Digon o win a canu, ond hefyd arddangosfa adar ysglyfaethus, parch chwarae thematig i’r plantos bach a lot lot o bethe arall.


Yr unig drueni? Fy mod i heb wisgo lan. Flwyddyn nesaf, mi fydd na Geltais arall ‘authentig’ yn cynnig llwnc destun i hanes yn strydoedd Ribadavia.


lunes, 3 de septiembre de 2007

Pompiynau prydferth

Dwi ddim yn rhyw ffotograffydd o fri, ond dwi'n hoff iawn o 'close-ups' o bethe - unrhywbeth a dweud y gwir! Ma' nhy i'n llawn o ffotos 'close-up' o bysgod (mewn marchnad), llysie, coed, creigiau...Dyma lun hyfryd hyfryd o bompiynau ffres o ar werth ym marchnad Ganol Oesoedd Ribadavia ychydig wythnose nol (mwy am hyn i ddod...). Does gen i'm syniad sut i goginio pethe o'r fath - unrhyw syniade?

Ymdrech: 0/10!

Dwi heb flogio ers bron i fis!!! Wedi bod yn brysur iawn, onest...Ond wedi gwneud addewid i wneud fwy o ymdrech, yn arbennig ers i fi ddarllen yn y Guardian dydd Sadwrn am flog y ddynes 95 oed o Muxía (Gorllewin Galicia) - http://amis95.blogspot.com Dwi'm yn cofio faint o 'hits' ma'r blog yn ei gael bob dydd, ond rhyw rif anhygoel! Yn sydyn reit, ro' ni'n teimlo ychydig yn ddwl am fod yn ecseited pan ges i sylwad wrth un person diwithr ryw ychydig wythnosau nôl (diolch Ceri!!)...Mwy i ddilyn!!!