lunes, 25 de junio de 2007

Coelcerthi a sardines

Ma' pawb yn gwybod fod yr 21ain o Fehefin yn golygu dechrau dwyddogol yr haf. Yn Galisia, ma'r dyddiad ma' hefyd yn golygu dechrau tymor y 'festas' - y dathliadau. Ac mae'r Galisiaid yn greadigol iawn pan mae'n dod i ddewis thema'r dathlu: popeth o seintiau i ysbrydion, o'r cyw iâr (festa do polo) i'r cranc (festas da necora), i ddathlu'r Galisiaid hynny sydd yn byw dramor (festa da enmigración). A dweud y gwir, unrhyw esgus am barti...

Ac i gicio'r cyfan off, y penwythnos hyn roedd hi'n noson dathlu San Xoan. Y traddodiad? Cymysgedd rhyfedd o'r pabyddol a'r paganaidd; gyntaf i'r eglwys ac yfed o'r dwr wedi ei fendithio, ac yna i'r parc i neidio dros coelcerth ar gyfer dod a lwc dda am y flwyddyn i ddod. Roedd miloedd o goelcerthi yn llosgi yn Galisia nos Sadwrn! Ma' hi hefyd yn arfer gwisgo teim a rhosmari, a bwyta sardines...doedd neb yn gallu dweud wrthai pam! Fe sgipies i'r eglwys a mynd yn syth i gyfeiriad y goelcerth - falle fod hi'n ddechrau swyddogol yr haf, ond doedd dim son o haul yn unman, ac roedd hi'n noson yffach o oer! A wedi cael cwpwl o sardines o'r barbiciw, a bowlen o win cartref a adawodd fy ngwefusau'n biws llachar, mi o ni'n teimlo'n ddigon hyderus i neidio dros y goelcerth (fach fach) gan chwifio bwnshin o teim, a gweddio i Dduw na fyddai'r gwynt yn chwythu'r eiliad union honno a chodi'r fflamau i llosgi 'nhoesau i...

Ni barodd y sardines am sbel, ond fe gadwodd y gwin, er mor echrydus, lifo am oriau. A gyda'r gwin, y paganaid yn hawlio'r noson - boddwyd clochau'r eglwys gan ganu'r gwrachod a'r ysbrydion a ddawnsiau rownd y tân. Ysgwn i faint o'r rhain fuodd yn gofyn i'r offeiriad am faddau eu pechodau dydd Sul?

viernes, 22 de junio de 2007

Cenhedlaeth newydd o "galegofalantes"

Mi ddarllenes i yn y papur newydd ddoe fod y Fundación Otero Pedrayo wedi gwobrwyo'r Athro John Rutherford, o Brifysgol Rhydychen, am ei gyfraniad i ddiwylliant Galicia a'r iaith galisieg. Do' ni erioed wedi clywed am y gŵr, felly fe googles i fe, a darganfod ei fod e'n bennaeth ar Astudiaethau Galisieg yn Rhydychen. Fe ddarganfyddes i hefyd fod Llywodraeth Galisia wedi arianu swydd ddarlithio yn Rhydychen yn 1991, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o iaith a diwylliant y genedl. Ac wedi dilyn rhai o'r links a roddwyd ar y wê-fan, dyma hyd yn oed mwy o syrpreis darganfod fad na' ganolfannau tebyg ym Mhrifysgolion Birmingham, Stirling a hyd yn oed Bangor!

Dwi ddim yn gwybod pa mor boblogaidd ma' dysgu Galisieg dramor, ond ma'r ffaith fod yr holl sefydliadau yma'n bodoli'n awgrymu fod tipyn o ddidordeb mewn dysgu iaith sydd, yn Galicia ei hunan, yn hanesyddol wedi ei stereoteipo fel iaith anffasiynol, iaith y gymdeithas wledig draddodiadol.

A oes canolfannau tebyg yn bodoli ar gyfer dysgu'r Gymraeg mewn gwledydd dramor? Ysgwn i a fyddai'r Cynulliad fyth a diddordeb mewn ariannu swydd ym Mhrifysgol Santiago de Compostela - neu Madrid neu Barcelona - ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o'r iait a'n diwylliant ni? Mi fydde ni'n bendant o ymgeisio amndani!!!

domingo, 17 de junio de 2007

Noson mas yn Ribeira

Mi fues i yn Riberia y penwythnos hyn, tref glan-môr yn ardal y Rías Baixas yn Galicia. Ma' Ribeira'n un o'r canolfannau mwyaf pwysig ar gyfer pysgota yn y ranbarth, felly roedd pethau'n argoeli'n dda ar gyfer bwyd ffres, blasus yn syth o'r cwch...

Fe adewes i i'n ffrind i ordro'r bwyd, cwpwl o raciones o wahanol bethe rhwng tri ohono ni. Mi odd i ddewis cyntaf e ddim yn syrpreis - pulpo a la feria (octopus wedi ei ferwi a'i dorri'n chunks a ychydig o paprika wedi ei sprinclo drosto - gweler y ffoto ar y chwith). Does ddim pryd mas yn gyflawn heb fwyta pulpo...mae e'n rhan anatod o'r fwydlen Galisiadd! Ond mi ddechreues i ofni pan ddywedodd fy ffrind i bod e hefyd yn cael ei demptio gan can y Gulas con gambas a'r Revuelto de algas con erizo. Ma'n debyg fod gulas yn perthyn rhywffordd i deulu'r 'eel', er ma' nhw'n edrych yn fwy fel rhywbeth amhleserus iawn chi'n gallu dal yn y Nile os nofiwch chi ynddi...(gweler y llun isod). Ac erizo? 'Sea urchin', ac mi ddywedodd rhywun wrthai rywbryd ma'r rhan mwyaf blasus ohono yw'r organau atgenhedlu...doedd y ffaith fod yr erizo'n dod mewn 'scrambled egg' gyda rhywbeth tebyg i cabbage ddim yn 'i wneud e tamed yn fwy tempting...

Gulas con gambas

Sut odd e? Wel, dwi still byw. O ni ddim yn gallu blasu lot o'r erizo, ond dodd e'n sicr ddim yn gas. Y gulas? Y peth gwaethaf oedd y ffordd o nhw'n teimlo yn fy ngeg i y tro cyntaf wnes i fwyta rhai, ond o nhw'n flasus iawn. A'r pulpo? Hyfryd fel arfer. A golchi'r cwbwl lawr gyda botel o win Albariño lleol - Valmiñor 2005; ma'r gwin ychydig bach bach yn 'sparkling', gyda lot o flas grawnffrwyth a melon. A dweud y gwir, mor neis fel y by rhaid cael botel arall! Mmmm, hyfryd hyfryd hyfryd....

viernes, 15 de junio de 2007

Penblwydd Hapus yn 30 oed!!! Unrhyw un am barti?

Heddiw, ma' Sbaen yn dathlu 30 mlynedd o ddemocratiaeth! Ar y 15ed o Fehefin 1977, cynhalwyd yr etholiadau democrataidd cyntaf yn y wlad ers Chwefror 1936, ychydig fiseodd cyn y Rhyfel Cartref a ddaeth a Francisco Franco i bŵer. Roedd Franco'n dod yn wreiddiol o dref Ferrol yng ngogledd Galicia, a Galicia oedd un o'r rhanbarthau cyntaf i gwympo i ddwylo mintai'r Cadfridog yn ystod y rhyfel. Hyd yn oed mwy o reswm, felly, i ddathlu'r achlysur bwysig yma?


Adolfo Suarez, Llywydd Cyntaf y Sbaen ddemocrataidd, 1977

















Do'dd ddim lot o awyrgylch dathlu ymysg y bobl yn y bar lle dwi'n mynd i gael coffi bob bore. Mi ddywedodd Manolo, y waiter, wrthai bod y 'novelty' wedi 'i golli, a bod nhw eisioes wedi dathlu 5 mlynedd, deg mlynedd, 15...20...o ddemocratiaeth. Pwynt teg. Ond onid yw pethau'n wahanol y tro yma, medde fi? Wedi'r cwbwl, yn yr etholiadau lleol rai wythnosau nol, fe lwyddodd y Blaid Sosialaidd yn Galicia a'r BNG, y blaid genedlaetholgar, ffurfio llywodraethau yn y mwyafrif helaeth o gynghorau lleol, gan ddod a ddiwedd i reolaeth hegemonaidd y PP yn Galicia; arweinydd y PP am bron i 30 mlynedd oedd Manuel Fraga, Gweinidog yng nghabinet Franco ers dechrau'r 1960au. Dyw gweldiyddiaeth ddemocrataidd erioed wedi bod mor ecseiting yn Galicia!


"Ai ai, nena, ti non sabes nada da política", medde Manolo, yn siglo'i ben a hanner gwen ar ei wyneb. "Fydd ddim lot yn newid, gei di weld; cael ffrindie'n y lle iawn, dyna sy'n bwysig. Dyw 30 mlynedd o ddemocratiaeth ddim wedi newid hynny..."

Wedi methu a darbwyllo Manolo o'r newidiadau gwleidyddol pwysig ar y gorwel i Galicia, dyma fi'n troi nol i ddarllen y papur newydd, ac am rywbeth arall nad oedd newid yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf - bygythiad gweithreodedd treisgar ETA. Sefydlwyd ETA ar ddechrau'r 60au i ymladd dros gydnabyddiaeth y genedl a'r iaith Fasgaidd; a gyda'r grŵp unwaith eto yn datgan y bydd yn ail-ddechrau ymosodiadau treisgar yn enw'r genedl Fasgaidd, mae'n amlwg nad yw democratiaeth, er ei holl rinweddau, wedi ffindio ateb i bob problem wleidyddol yn Sbaen heddiw.

Dwi'n dal i fwriadu dathlu penblwydd y Sbaen ddemocrataidd yn 30 heno, ond fyddai ddim yn mynd dros y top. Wedi'r cwbwl, fel ddywedodd Manolo, nid popeth sydd wedi newid a ganlyniad i'r etholiadau pwysig yna a ddigwyddodd tair degawd yn ôl...

lunes, 11 de junio de 2007

Aelod nesaf Clwb y Ffilistiaid?

Mi fues i'n gwrando ar Radio Cymru heddiw, ar gyfweliad gyda Cris Dafydd ynglyn ag erthygl a sgwenodd yn Golwg wythnos diwethaf, yn awgrymu ein bod ni fel cenedl yn rhoi gormod o sylw i eisteddfodau. Mae'n debyg i eisteddfotwyr mwyaf brwd Cymru ymateb gan ei gyhuddo o fod yn Ffilisiad o'r radd eithaf - beth odd e'n 'i ddisgwyl, wedi iddo ymosod ar un o gonglfeini'r diwylliant Cymreig?

Ond rhaid i fi gyfadde, dwi'n cytuno a'i bwynt e i ryw radde. Dim cymaint oherwydd fod y 'steddfod yn domiwnyddu S4C am yr wythnos y ma' hi arno - ma'n braf cael rhaglen o safon am change! Ond ma'r faith fod y 'steddfod yn cael cymaint o sylw yn y cyfrynge, sylw na'i roddir i'r un gradde i lot o ddigwyddiadau diwylliannol eraill, yn adlewyrchu'r syniad ma'r 'steddfod, heb os, yw 'r "showcase" o ddoniau canu ac adrodd y genedl. Ac yn fwy na dim, ma'r steddfod yn gwneud hyn oll trwy gyfrwng iaith y nefoedd, y Gymraeg.

Does dim amheuaeth fod y steddfod yn gyfle i'r perfformwyr gorau yn ein plith i ddangos be ma' nhw'n gallu gwneud. A hyn oll yn Gymraeg yn rywbeth i ymfalchio ynddo. Ond ma' na hefyd lwyth o bethau eraill sy'n mynd mlaen sydd hefyd yn haeddu cael eu cydnabod a'u dathlu oherwydd eu bod nhw'n dangos ein cenedl ni ar ei gorau, boed ar lafar neu trwy ddawns. Ond ma' llawer o'r digwyddiadau yma yn cwympo off radar ddiwyllianol gormod o Gymru Cymreig oherwyd - "God forbid" - eu bod nhw yn Saesneg.

Dwi'n gwneud y pwynt yma o brofiad personol o fynychu digwyddiadau diwyllianol yn yr iaith fain. Yn aml, pan dwi wedi bod mewn cyngherddau neu dramau Seisnig yn Aberystwyth, Aberteifi neu rhywle debyg, ma' unieithrydd y digwyddiadau wastad yn fy nhrawio; heb gyffredinoli gormod, anaml y clywir Cymraeg yn cael ei siarad ymysg y gynulleidfa. Ble y mae'r steddfodwyr hynny sydd mor barod o ddathlu diwylliant eu cenedl am wythnos gyfan bob mis Awst? Ydy'r ffaith ieithyddol yma'n sail ddilys ar gyfer penderfynu beth sydd, a beth sydd ddim, yn haeddu cael ei gydnabod fel rhan o ddiwylliant y genedl Gymreig gyfoes?

Ma diwylliant Cymreig yn lawer mwy na diwylliant yr iaith Gymraeg, a ma' unrhyw genedlaetholdeb sy'n arwain un i anwybyddu'r dimensiwn arall, ddi-Gymreig, yma o'n cymdeithas ni, yn genedlaetholdeb cul iawn!

domingo, 10 de junio de 2007

Bacchus

Wel, dyma ychwanegu flog arall at y miloedd (mwy?) eisioes ar y wê. Blog sy'n son am y pethe da mewn bywyd - bwyd, gwin, teithio...Dwi ddim yn awdurdod ar unrhyw un o'r pethe 'ma - ond bo' fi'n treulio lot o amser yn gwneud bob un o'r uchod, ac yn cael hwyl wrth wneud hynny!

Yr ysbrydolieth ar gyfer y blog? Bore 'ma, tua wyth o'r gloch y bore ar y ffordd adre wedi noson hir hir o ddathlu...Neithiwr, fe fues i mewn 'Bacanal Romana' - parti mawr i ddathlu sefydlu Lugo (Galicia) fel tref Rufeinig yn y flwyddyn 26 cyn Crist gan Paulo Fabio Máximo (www.ardelucus.com). Fe ddechreuodd y digwyddiadau tua amser cinio - marchnad Rufeinig (yn gwerthu popeth o wisgoedd romanaidd i gaws i waith crefft), priodas geltaidd, a ocsiwn caethweision (fe ges i'n "out-bido"). Uchafbwynt y noson oedd yr ornest fawr rhwng y Rhufeniaid a'r Celtiaid brodorol. Yn anffodus, fe gollodd y Celtiaid (dim ail-ysgrifennu hanes ma' arnai ofn) ac wedyn, parti mawr - miwsig, diod, dawnsio...Odd hi'n deimlad rhyfedd, dathlu llwyddiant y Rhufeiniaid dros 'y mhobol i - dwi'n Gymraes wedi'r cwbwl, a hyd yn oed wedi gwisgo lan ar gyfer yr achlysur mewn gwisg Geltaidd (wel, Celtais dlawd o ni - ma'n rhyfeddol beth allwch chi neud a hen sach dato ar fyr-rybudd!). Ond rhaid fi fod yn onest, nid dyma odd yr amser i feddwl gormod am anghyfiawnderau hanesyddol...a buan y sefydlwyd perthynas gyfeillgar iawn rhwng y Geltais yma a rhai o'r gorchfygwyr o Rufain (a dim mwy am hyny ma' arnai ofn...).

A wedyn, dyma feddwl am wraidd y gair "bacanal". Ychydig o waith ymchwil ar y wê, a darganfod mae Bacchus oedd Duw gwin y Rhufeiniaid, yn enwog am ei bartioedd gwyllt (dyw'r gair cymraeg am "orgy" ddim yng ngeiriadur Prifysgol Llambed!! - www.geiriadur.net). Merched oedd prif addolwyr Bacchus, ac ar y 16 a'r 17 o Fawrth bob blwyddyn, fe ddathlwyd y Bacchanalia - does dim rhaid esbonio mwy! Jyst dwued fod y Bacchanalia wedi ei anghyfreithloni gan yr awdurdodau Rhufeinig erbyn 186 cyn Crist...

Bacchanalia gan Rubens (c. 1615)

Ma'r blog yma, felly, wedi ei ysbrydoli gan Bacchus a'i hoffder o win a ffrindiau a hwyl...er hyn oll gyda tipyn mwy o gymedroldeb na fyddai Bacchus ei hun yn ei argymell, dwi'n siwr!!