domingo, 10 de junio de 2007

Bacchus

Wel, dyma ychwanegu flog arall at y miloedd (mwy?) eisioes ar y wê. Blog sy'n son am y pethe da mewn bywyd - bwyd, gwin, teithio...Dwi ddim yn awdurdod ar unrhyw un o'r pethe 'ma - ond bo' fi'n treulio lot o amser yn gwneud bob un o'r uchod, ac yn cael hwyl wrth wneud hynny!

Yr ysbrydolieth ar gyfer y blog? Bore 'ma, tua wyth o'r gloch y bore ar y ffordd adre wedi noson hir hir o ddathlu...Neithiwr, fe fues i mewn 'Bacanal Romana' - parti mawr i ddathlu sefydlu Lugo (Galicia) fel tref Rufeinig yn y flwyddyn 26 cyn Crist gan Paulo Fabio Máximo (www.ardelucus.com). Fe ddechreuodd y digwyddiadau tua amser cinio - marchnad Rufeinig (yn gwerthu popeth o wisgoedd romanaidd i gaws i waith crefft), priodas geltaidd, a ocsiwn caethweision (fe ges i'n "out-bido"). Uchafbwynt y noson oedd yr ornest fawr rhwng y Rhufeniaid a'r Celtiaid brodorol. Yn anffodus, fe gollodd y Celtiaid (dim ail-ysgrifennu hanes ma' arnai ofn) ac wedyn, parti mawr - miwsig, diod, dawnsio...Odd hi'n deimlad rhyfedd, dathlu llwyddiant y Rhufeiniaid dros 'y mhobol i - dwi'n Gymraes wedi'r cwbwl, a hyd yn oed wedi gwisgo lan ar gyfer yr achlysur mewn gwisg Geltaidd (wel, Celtais dlawd o ni - ma'n rhyfeddol beth allwch chi neud a hen sach dato ar fyr-rybudd!). Ond rhaid fi fod yn onest, nid dyma odd yr amser i feddwl gormod am anghyfiawnderau hanesyddol...a buan y sefydlwyd perthynas gyfeillgar iawn rhwng y Geltais yma a rhai o'r gorchfygwyr o Rufain (a dim mwy am hyny ma' arnai ofn...).

A wedyn, dyma feddwl am wraidd y gair "bacanal". Ychydig o waith ymchwil ar y wê, a darganfod mae Bacchus oedd Duw gwin y Rhufeiniaid, yn enwog am ei bartioedd gwyllt (dyw'r gair cymraeg am "orgy" ddim yng ngeiriadur Prifysgol Llambed!! - www.geiriadur.net). Merched oedd prif addolwyr Bacchus, ac ar y 16 a'r 17 o Fawrth bob blwyddyn, fe ddathlwyd y Bacchanalia - does dim rhaid esbonio mwy! Jyst dwued fod y Bacchanalia wedi ei anghyfreithloni gan yr awdurdodau Rhufeinig erbyn 186 cyn Crist...

Bacchanalia gan Rubens (c. 1615)

Ma'r blog yma, felly, wedi ei ysbrydoli gan Bacchus a'i hoffder o win a ffrindiau a hwyl...er hyn oll gyda tipyn mwy o gymedroldeb na fyddai Bacchus ei hun yn ei argymell, dwi'n siwr!!

1 comentario:

Rhys Wynne dijo...

Edrych ymlaen i ddarllen mwy. Mi wnai gyfeiro eraill ar y blog yn fuan, felly bydda'n barod am lif o sylwadau!