Mi fues i'n gwrando ar Radio Cymru heddiw, ar gyfweliad gyda Cris Dafydd ynglyn ag erthygl a sgwenodd yn Golwg wythnos diwethaf, yn awgrymu ein bod ni fel cenedl yn rhoi gormod o sylw i eisteddfodau. Mae'n debyg i eisteddfotwyr mwyaf brwd Cymru ymateb gan ei gyhuddo o fod yn Ffilisiad o'r radd eithaf - beth odd e'n 'i ddisgwyl, wedi iddo ymosod ar un o gonglfeini'r diwylliant Cymreig?
Ond rhaid i fi gyfadde, dwi'n cytuno a'i bwynt e i ryw radde. Dim cymaint oherwydd fod y 'steddfod yn domiwnyddu S4C am yr wythnos y ma' hi arno - ma'n braf cael rhaglen o safon am change! Ond ma'r faith fod y 'steddfod yn cael cymaint o sylw yn y cyfrynge, sylw na'i roddir i'r un gradde i lot o ddigwyddiadau diwylliannol eraill, yn adlewyrchu'r syniad ma'r 'steddfod, heb os, yw 'r "showcase" o ddoniau canu ac adrodd y genedl. Ac yn fwy na dim, ma'r steddfod yn gwneud hyn oll trwy gyfrwng iaith y nefoedd, y Gymraeg.
Does dim amheuaeth fod y steddfod yn gyfle i'r perfformwyr gorau yn ein plith i ddangos be ma' nhw'n gallu gwneud. A hyn oll yn Gymraeg yn rywbeth i ymfalchio ynddo. Ond ma' na hefyd lwyth o bethau eraill sy'n mynd mlaen sydd hefyd yn haeddu cael eu cydnabod a'u dathlu oherwydd eu bod nhw'n dangos ein cenedl ni ar ei gorau, boed ar lafar neu trwy ddawns. Ond ma' llawer o'r digwyddiadau yma yn cwympo off radar ddiwyllianol gormod o Gymru Cymreig oherwyd - "God forbid" - eu bod nhw yn Saesneg.
Dwi'n gwneud y pwynt yma o brofiad personol o fynychu digwyddiadau diwyllianol yn yr iaith fain. Yn aml, pan dwi wedi bod mewn cyngherddau neu dramau Seisnig yn Aberystwyth, Aberteifi neu rhywle debyg, ma' unieithrydd y digwyddiadau wastad yn fy nhrawio; heb gyffredinoli gormod, anaml y clywir Cymraeg yn cael ei siarad ymysg y gynulleidfa. Ble y mae'r steddfodwyr hynny sydd mor barod o ddathlu diwylliant eu cenedl am wythnos gyfan bob mis Awst? Ydy'r ffaith ieithyddol yma'n sail ddilys ar gyfer penderfynu beth sydd, a beth sydd ddim, yn haeddu cael ei gydnabod fel rhan o ddiwylliant y genedl Gymreig gyfoes?
Ma diwylliant Cymreig yn lawer mwy na diwylliant yr iaith Gymraeg, a ma' unrhyw genedlaetholdeb sy'n arwain un i anwybyddu'r dimensiwn arall, ddi-Gymreig, yma o'n cymdeithas ni, yn genedlaetholdeb cul iawn!
2 comentarios:
Cytuno, mae lot o'r crowd Eisteddfod yr un mor barod i ddi-styru rhywbeth am fod drwy gyfrwng Saesneg ag y mae llawer un yn diystyru unrhybeth sy'n Gymraeg. Er mod in Eisteddfotwr brwd ers rhyw 5-6 nlynedd, mynd am y cymdeithasu, rhwydweithio a'r gigs ydw i, fyddai byth yn mentro i'r Pafilwn, dwi'n un o'r Ffilistiiad yma sydd ddim yn gwerthfawrogi canu ac adrodd mae gynnai ofn. Ond oherwydd y ffordd mae'r Eisteddfod yn cael ei farchnata a'i ddangos ar y teledu, fe gymerodd o 20 mlynedd i mi sylwi ar y pethau eraill sydd ar gael fel dramau, celf a chreft, ayyb.
Mae cefnogi celfyddydau Cymreig yn ogystal a Chymraeg yn hollol bwysig os ydym am greu cenedl go iawn.
Dwi hefyd yn cytuno - rhaid cael meddwl eang!!!
Cadw ´sgwennu!
Publicar un comentario