Ma' pawb yn gwybod fod yr 21ain o Fehefin yn golygu dechrau dwyddogol yr haf. Yn Galisia, ma'r dyddiad ma' hefyd yn golygu dechrau tymor y 'festas' - y dathliadau. Ac mae'r Galisiaid yn greadigol iawn pan mae'n dod i ddewis thema'r dathlu: popeth o seintiau i ysbrydion, o'r cyw iâr (festa do polo) i'r cranc (festas da necora), i ddathlu'r Galisiaid hynny sydd yn byw dramor (festa da enmigración). A dweud y gwir, unrhyw esgus am barti...
Ac i gicio'r cyfan off, y penwythnos hyn roedd hi'n noson dathlu San Xoan. Y traddodiad? Cymysgedd rhyfedd o'r pabyddol a'r paganaidd; gyntaf i'r eglwys ac yfed o'r dwr wedi ei fendithio, ac yna i'r parc i neidio dros coelcerth ar gyfer dod a lwc dda am y flwyddyn i ddod. Roedd miloedd o goelcerthi yn llosgi yn Galisia nos Sadwrn! Ma' hi hefyd yn arfer gwisgo teim a rhosmari, a bwyta sardines...doedd neb yn gallu dweud wrthai pam! Fe sgipies i'r eglwys a mynd yn syth i gyfeiriad y goelcerth - falle fod hi'n ddechrau swyddogol yr haf, ond doedd dim son o haul yn unman, ac roedd hi'n noson yffach o oer! A wedi cael cwpwl o sardines o'r barbiciw, a bowlen o win cartref a adawodd fy ngwefusau'n biws llachar, mi o ni'n teimlo'n ddigon hyderus i neidio dros y goelcerth (fach fach) gan chwifio bwnshin o teim, a gweddio i Dduw na fyddai'r gwynt yn chwythu'r eiliad union honno a chodi'r fflamau i llosgi 'nhoesau i...
No hay comentarios:
Publicar un comentario