jueves, 9 de agosto de 2007

Gwynt gwyllt o'r gorllewin...

Wedi penderfynnu mynd i Portiwgal am ychydig ddiwrnodau o wyliau. I Peniche, yn fwy penodol, tua 90 km i'r gogledd o Lisbon. Y nod: deifo o amgylch Ynys Berlenga. Y tro olaf dries i gyrraedd Peniche, mi o' ni ar gefn motobeic; jyst i'r de o Porto, mi odd 'da fi gymaint o boen yn fy mhenol, bu rhaid ail-feddwl, a troi nôl tua'r gogledd...Y tro hyn, mynd mewn car! Am foesuthrwydd: air conditioning, cruise control, a digon o le i'r holl stwff deifo yn y boot...

Wedi taith o ryw bedair awr, dyma gyrraedd Peniche. A chael bach o sioc. Mi oedd Peniche'n edrych yn fwy o building site na pentre tawel ar yr arfordir. Ac yna mi 'odd yr holl bobol...Mi fydd unrhyw un sydd wedi bod i Sbaen neu Portiwgal ym mis Awst yn gwybod fod popeth mwy neu lawr yn cau lawr tra fod pawb yn diflannu ar eu gwyliau. Ac o weld strydoedd Peniche mor llawn, ma'n debyg fod y mwyafrif ohonyn nhw wedi penderfynnu dod yma!!! Diolch fyth, yn yr ail faes campio mi 'odd lle i'n tent bach bach ni. Ac wedi bach o fwyd a diferyn i yfed, dyma droi mewn am y noson. A gobeithio am noson dda o gwsg...

Yn anffodus, ni fuodd pethe cweit mor idyllic. Mi 'odd hi'n wyntog. Yn ofnadwy o wyntog! Dim syndod a dweud y gwir, gan ystyried ein bod ni ar dop clogyn reit ar ochr y môr. Ond 'odd hi'n rhy hwyr gwneud unrhyw beth am dri o'gloch y bore gyda hanner ein tent hi'n chwythu'n wyllt o amgylch ein coesau ni. Dim ni 'odd yr unig rai i ddiawlo prynu tent rhad na fyddai wedi goresi unrhyw fath o dywydd caled. Ond mewn argyfwng, mi roedd cyfeillgarwch. Ffindio cerrig i ddal ein tent ni lawr, a wedyn helpu'r bobl drws nesaf i wneud yr un peth. Mi 'odd na' solidarity rhyngddom ni, yn deillio o'r teimlad ein bod ni'n ymladd yn erbyn yr 'elements', ac er na wnaeth neb gysgu lot, mi 'odd 'na gytundeb ein bod ni wedi profi, a wedi goroesi, profiad 'camping' go iawn!

lunes, 6 de agosto de 2007

Rhyddid!

Dwi'n rhydd! Dwi wedi dianc o Essex wedi pedair wythnos o waith caled caled. A dweud y gwir, 'odd y cwrs wnes i'n itha diddorol - ond ma' hi'n anodd cyfleu pa mor falch ydwi o fod nôl yn Sbaen. Ac yn fy flat fy hunan, lle ma'r gegin jyst i fi, a does dim ciw am y gawod yn y bore...Ma'r tywydd yn braf, dwi'n ysu am glased o Albariño, a wedyn dwi'n mynd yn syth i'r traeth...

sábado, 21 de julio de 2007

Diolch fyth am Bill's...

Dwy wythnos ym Mhrifysgol Essex ac o ni ffeili aros i ddianc am ychydig ddyddie. Brighton am benwythnos i ddal lan gyda fy ngefneither Teleri a cyflawni fy nyletswyddau fel godmother i Ela Mai, 2 flwydd oed...

Dechreuodd pethe ddim yn dda. Talu £43.00 am docyn (scandal!), ond oherwydd y ciw yn y swyddfa docynnau, miso'r tren cyntaf o Colchester i Llundain, ac yna cyrraedd Victori a sylweddoli, gyda chalon drom, fod pob un tren yn delayed oherwydd yr holl lifogydd diwedd wythnos diwethaf. Wedi awr o aros, yr hapusrwydd o glywed y datganiad fod 'na dren i Lewes yn gadael mewn 5 munud yn sydyn ddiflanu pan ddath hi i dreio mynd mewn i'r tren - canoedd o bobl drwg eu tymer eisioes wedi squasho mewn...Fe lwyddes i hefyd i beilo mewn, a gorfod gwario'r awr a hanner nesaf wedi cwtsho lan at rhyw ddyn busnes smart mewn tawelwch, dim digon o le na ocsigen i gynnal sgwrs polite. Dwi erioed wedi bod mor falch o weld botel win agored pan gerddes i mewn i dy Teleri yn Lewes tua chwech awr ar ôl dechrau fy siwrnau!

Dydd Sadwrn, ac mi wellodd pethe'n sylweddol. Bore: darllen papur newydd, rhoi bath i Ela a wedyn chware doli a darllen storis Postman Pat. Wedyn, mewn a ni i ganol Lewes, via'r parc (ma' Ela'n ddwl am y swings! - ar ôl hanner awr roedd rhaid ei dragio hi bant yn sgrechen a cico!). Dim ond un peth wnaeth iddi daweli - yr addewid o gacen yn Bill's. Ma Bill's yn Mecca i unrhywun sy'n desperate am kick o fwyd luscious; siop llysie organig yw hanner y siop, tra fod yr hanner arall yn gaffi sy'n cynnig y bwyd mwyaf ffantastig dwi wedi blasu erioed - salads, pethe swish ar dost (ma'r portobello mushrooms yn gorgeous!!), pizzas, curries...popeth yn home made, ffresh ac yn edrych yn anhygoel! (http://www.billsproducestore.co.uk/). A'r uchafbwynt: y cacennau. Ma' nhw'n artwork, gyda pob teisen wedi ei haddurno gyda peil o ffrwythau, siocled, blodau...Brecwast dydd Sadwrn, felly, oedd cacen o Bill's: Fresh Fruit Pavlova i fi, Banoffee Pie i Teleri, a extra llwy i Ela i helpu mas. Ac mi 'odd pob llwyed yn nefoedd. Dwi erioed wedi cymryd cymaint o amser yn bwyta un darn o gacen, cymaint odd y pleser o bob lond ceg...A dweud y gwir yn onest, mi o ni'n llawn wedi jyst hanner y pavlova, ond doedd gadael plat hanner-llawn ddim yn opsiwn. Hanner awr yn ddiweddarach, mi o ni nôl yn y parc, Ela'n swingio unwaith 'to, tra fod Tel a fi'n meddwl am ffyrdd o herwgipio Duw'r cacennau, Bill ei hun, a'i wneud e'n gaethwas i ni a'n holl dyheadau gastronomiadd...

lunes, 16 de julio de 2007

Hapusrwydd = arian + dim gwleidyddiaeth?

Dwi ym Mhrifysgol Essex am fis yn gwneud cwrs Cyflwyniad i Ystadegau ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol. Pan o ni yn y Brifysgol, fe lwyddes i osgoi unrhyw beth odd yn ymwneud a rhifau - 'odd Syniadaeth Wleidyddol yn gan waith mwy diddorol na unrhyw fodiwl mewn 'quantiative methods'. Ond dwi'n dyfaru nawr! Does dim dianc wrth y 'regression analysis' a'r 'quadratic equations'!

Mi 'odd hi'n yffach o sioc i'r sistem i orfod mynd nôl mewn i 'student' mode. Ma' fy ystafell i - dodrefn mdf brown hyfryd a lleni 'chintz' piws a pinc - yn un o 13 ar y llawr, a rhaid rhannu'r gegin a'r stafell folchi. Y peth rhyfedd yw pa mor gyflym y daw'r sgiliau cyd-fyw yn ôl: ffitio tri bag Tesco mewn i un silff yn yr oergell, adnabod sŵn y gawod yn cael ei throi i ffwrdd er mwyn bod yn barod i neidio mewn cyn y person nesaf, dechrau coginio deg munud cyn bod y rhai hyny sy'n defnyddio pob 'utensil' yn y gegin yn cyrraedd i hawlio'r gegin...Ma rhyw fath o ddynamig 'survival of the fitest' wedi cicio mewn - jyst gobeithio y bydd yn ddigon i syrfeifo'r dair wythnos sydd 'da fi ar ôl o'r cwrs!

Ma'r cwrs i hun - er gwaetha'r derminoleg annirnadwy a'r equations scary, yn itha diddorol. Heddiw, mi fuon ni'n edrych ar ddata o'r 'European Social Survey', ac yn trio adnabod beth yw'r ffactorau sydd yn effeithio ar hapusrwydd pobl. Mi 'odd dros gant o variables i ddewis o, a rhaid oedd datblygu model gan ddewis y variables mwyaf priodol ar gyfer esbonio hapusrwydd. Rhaid i fi gyfadded nad oedd lot o syniad gyda fi ble i dechrau gyda'r holl golofnau o rifau odd yn llenwi'r sgrin o'm blaen i. Ond wedi ymdrechu'n galed gyda ail-godio rhai variables, a troi eraill mewn i dummy variables (cymleth iawn!!!) mi ddangosodd fy model i ma'r bobol mwyaf hapus yw'r rhai hynny sy'n ennill fwyaf o arian ac sydd yn ymddiddori lleiaf mewn gwleidyddiaeth. I rywun fel fi sy'n ennill cyflog gweddol drychinebus ac sydd yn gwenud gwaith ymchwil ar wleidyddiaeth, doedd hyn ddim yn argoeli'n dda!!! A oedd bywyd o anhapusrwydd dwys o fy mlaen i, gofynes i'n ofnus i'r darlithydd?

'Paid a becso', medde fe, 'bach o 'manipulation' ac fi'n siwr galli di gal rhagolygon llawer mwy optimistaidd!' Ma'n amlwg fod lot mwy gyda 'fi ddysgu am yr holl fusnes ystadegau 'ma...


Rhai fformiwlas arall ar gyfer hapusrwydd ddes i ar eu traws nhw ar y w
ê:

a.
HAPPINESS = THE NUMBER OF DESIRES FULFILLED

_________________________________
THE NUMBER OF DESIRES ENTERTAINED

The quantum of happiness is increased either by
1. Increasing the numerator, i.e. maximizing the desires fulfilled. Or
2. Decreasing the denominator, i.e. minimizing the desires entertained.


b. Happiness = P + (5xE) + (3xH)

Where
P = Personal Characteristics (including outlook on life, adaptability and resilience).
E = Existence (health, financial stability and friendships).
H = Higher Order needs (self-esteem, expectations, ambitions and sense of humour).


Os chi moin ffindio mas pa mor hapus i chi, gwnewch y prawf yma ar wefan y BBC:
http://news.bbc.co.uk/1/hi/programmes/happiness_formula/4785402.stm

lunes, 25 de junio de 2007

Coelcerthi a sardines

Ma' pawb yn gwybod fod yr 21ain o Fehefin yn golygu dechrau dwyddogol yr haf. Yn Galisia, ma'r dyddiad ma' hefyd yn golygu dechrau tymor y 'festas' - y dathliadau. Ac mae'r Galisiaid yn greadigol iawn pan mae'n dod i ddewis thema'r dathlu: popeth o seintiau i ysbrydion, o'r cyw iâr (festa do polo) i'r cranc (festas da necora), i ddathlu'r Galisiaid hynny sydd yn byw dramor (festa da enmigración). A dweud y gwir, unrhyw esgus am barti...

Ac i gicio'r cyfan off, y penwythnos hyn roedd hi'n noson dathlu San Xoan. Y traddodiad? Cymysgedd rhyfedd o'r pabyddol a'r paganaidd; gyntaf i'r eglwys ac yfed o'r dwr wedi ei fendithio, ac yna i'r parc i neidio dros coelcerth ar gyfer dod a lwc dda am y flwyddyn i ddod. Roedd miloedd o goelcerthi yn llosgi yn Galisia nos Sadwrn! Ma' hi hefyd yn arfer gwisgo teim a rhosmari, a bwyta sardines...doedd neb yn gallu dweud wrthai pam! Fe sgipies i'r eglwys a mynd yn syth i gyfeiriad y goelcerth - falle fod hi'n ddechrau swyddogol yr haf, ond doedd dim son o haul yn unman, ac roedd hi'n noson yffach o oer! A wedi cael cwpwl o sardines o'r barbiciw, a bowlen o win cartref a adawodd fy ngwefusau'n biws llachar, mi o ni'n teimlo'n ddigon hyderus i neidio dros y goelcerth (fach fach) gan chwifio bwnshin o teim, a gweddio i Dduw na fyddai'r gwynt yn chwythu'r eiliad union honno a chodi'r fflamau i llosgi 'nhoesau i...

Ni barodd y sardines am sbel, ond fe gadwodd y gwin, er mor echrydus, lifo am oriau. A gyda'r gwin, y paganaid yn hawlio'r noson - boddwyd clochau'r eglwys gan ganu'r gwrachod a'r ysbrydion a ddawnsiau rownd y tân. Ysgwn i faint o'r rhain fuodd yn gofyn i'r offeiriad am faddau eu pechodau dydd Sul?

viernes, 22 de junio de 2007

Cenhedlaeth newydd o "galegofalantes"

Mi ddarllenes i yn y papur newydd ddoe fod y Fundación Otero Pedrayo wedi gwobrwyo'r Athro John Rutherford, o Brifysgol Rhydychen, am ei gyfraniad i ddiwylliant Galicia a'r iaith galisieg. Do' ni erioed wedi clywed am y gŵr, felly fe googles i fe, a darganfod ei fod e'n bennaeth ar Astudiaethau Galisieg yn Rhydychen. Fe ddarganfyddes i hefyd fod Llywodraeth Galisia wedi arianu swydd ddarlithio yn Rhydychen yn 1991, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o iaith a diwylliant y genedl. Ac wedi dilyn rhai o'r links a roddwyd ar y wê-fan, dyma hyd yn oed mwy o syrpreis darganfod fad na' ganolfannau tebyg ym Mhrifysgolion Birmingham, Stirling a hyd yn oed Bangor!

Dwi ddim yn gwybod pa mor boblogaidd ma' dysgu Galisieg dramor, ond ma'r ffaith fod yr holl sefydliadau yma'n bodoli'n awgrymu fod tipyn o ddidordeb mewn dysgu iaith sydd, yn Galicia ei hunan, yn hanesyddol wedi ei stereoteipo fel iaith anffasiynol, iaith y gymdeithas wledig draddodiadol.

A oes canolfannau tebyg yn bodoli ar gyfer dysgu'r Gymraeg mewn gwledydd dramor? Ysgwn i a fyddai'r Cynulliad fyth a diddordeb mewn ariannu swydd ym Mhrifysgol Santiago de Compostela - neu Madrid neu Barcelona - ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o'r iait a'n diwylliant ni? Mi fydde ni'n bendant o ymgeisio amndani!!!

domingo, 17 de junio de 2007

Noson mas yn Ribeira

Mi fues i yn Riberia y penwythnos hyn, tref glan-môr yn ardal y Rías Baixas yn Galicia. Ma' Ribeira'n un o'r canolfannau mwyaf pwysig ar gyfer pysgota yn y ranbarth, felly roedd pethau'n argoeli'n dda ar gyfer bwyd ffres, blasus yn syth o'r cwch...

Fe adewes i i'n ffrind i ordro'r bwyd, cwpwl o raciones o wahanol bethe rhwng tri ohono ni. Mi odd i ddewis cyntaf e ddim yn syrpreis - pulpo a la feria (octopus wedi ei ferwi a'i dorri'n chunks a ychydig o paprika wedi ei sprinclo drosto - gweler y ffoto ar y chwith). Does ddim pryd mas yn gyflawn heb fwyta pulpo...mae e'n rhan anatod o'r fwydlen Galisiadd! Ond mi ddechreues i ofni pan ddywedodd fy ffrind i bod e hefyd yn cael ei demptio gan can y Gulas con gambas a'r Revuelto de algas con erizo. Ma'n debyg fod gulas yn perthyn rhywffordd i deulu'r 'eel', er ma' nhw'n edrych yn fwy fel rhywbeth amhleserus iawn chi'n gallu dal yn y Nile os nofiwch chi ynddi...(gweler y llun isod). Ac erizo? 'Sea urchin', ac mi ddywedodd rhywun wrthai rywbryd ma'r rhan mwyaf blasus ohono yw'r organau atgenhedlu...doedd y ffaith fod yr erizo'n dod mewn 'scrambled egg' gyda rhywbeth tebyg i cabbage ddim yn 'i wneud e tamed yn fwy tempting...

Gulas con gambas

Sut odd e? Wel, dwi still byw. O ni ddim yn gallu blasu lot o'r erizo, ond dodd e'n sicr ddim yn gas. Y gulas? Y peth gwaethaf oedd y ffordd o nhw'n teimlo yn fy ngeg i y tro cyntaf wnes i fwyta rhai, ond o nhw'n flasus iawn. A'r pulpo? Hyfryd fel arfer. A golchi'r cwbwl lawr gyda botel o win Albariño lleol - Valmiñor 2005; ma'r gwin ychydig bach bach yn 'sparkling', gyda lot o flas grawnffrwyth a melon. A dweud y gwir, mor neis fel y by rhaid cael botel arall! Mmmm, hyfryd hyfryd hyfryd....